Ivan Mazepa | |
---|---|
Portread o'r Hetman Ivan Mazepa o'r 19g gan arlunydd anhysbys | |
Ganwyd | 20 Mawrth 1639 Mazepintsi |
Bu farw | 21 Medi 1709 Bender, Varnița |
Dinasyddiaeth | Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, Tsaraeth Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd |
Swydd | Prince of the Holy Roman Empire, Hetman of Zaporizhian Host |
Tad | Adam-Stefan Mazepa |
Mam | Mariya Mazepa |
Priod | Hanna Polovets II |
Perthnasau | Semen Polovets, Hanna Polevets I |
Llinach | House of Mazepa |
Gwobr/au | Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Sant Andreas |
llofnod | |
Milwr Cosacaidd o Wcráin oedd Ivan Stepanovych Mazepa (sillefir hefyd Mazeppa; 1639 – 8 Medi [28 Awst yn yr Hen Ddull] 1709)[1] a fu'n Hetman—sef bennaeth ar—Lu Zaporizhzhia o 1687 i 1708. Fel rhan o Tsaraeth Rwsia, brwydrodd ei lu dros y Gynghrair Sanctaidd yn erbyn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn ystod Rhyfel Mawr y Twrc (1683–99) ac ym 1707 rhoddwyd iddo'r teitl Tywysog yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn ystod Rhyfel Mawr y Gogledd (1700–21), trodd Mazepa ei gefn ar y Rwsiaid ac ymgynghreiriodd ag Ymerodraeth Sweden.
Ganed ef ym Mazepyntsi, ger Bila Tserkva (a leolir bellach yn Oblast Kyiv, Wcráin), yn rhanbarth hanesyddol Glan Dde Wcráin—i orllewin Afon Dnieper—yn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Tirfeddianwyr bonheddig, yn ddeiliaid i Goron Pwyl, ac yn Gristnogion Uniongred oedd ei deulu.[2] Cafodd ei addysg yng ngorllewin Ewrop, ac aeth yn was i lys Jan Kazimierz, Brenin Pwyl ac Uchel Ddug Lithwania (teyrnasai 1648–68). Dychwelodd i'w fro enedigol ym 1663 ac ymunodd â milwyr Cosacaidd yr Hetmanaeth, yn ystod y cyfnod cythryblus yn hanes Wcráin a elwir "y Distryw". Derbyniwyd Mazepa i wasanaeth Petro Doroshenko, Hetman Llu Zaporizhzhia (t. 1665–76), a chafodd ei ddyrchafu'n gadlywydd ar sgwadron yn 30 oed. Trwy gydol y 1660au a'r 1670au byddai Mazepa yn newid ei deyrngarwch sawl gwaith yn ystod y rhyfela cymhleth rhwng yr amryw hetmaniaid a lluoedd croes y Cosaciaid a'r byddinoedd Otomanaidd, Rwsiaidd, a Phwylaidd a fu'n cystadlu dros reolaeth Wcráin.[1]
Ym 1687 esgynnodd Mazepa ei hun i frig yr Hetmanaeth, ar fynnu'r Tywysog Vasilij Golicyn, prif gynghorwr y Rhaglyw Sophia Alekseyevna (t. 1682–89). Talodd Mazepa y pwyth yn ôl drwy gefnogi ail ymgyrch Golicyn yn erbyn Chaniaeth y Crimea ym 1689 ac arwain 30–40,000 o'i Gosaciaid i frwydro ochr yn ochr â'r Rwsiaid yn erbyn y Tatariaid. Fodd bynnag, methiant a fu'r ymdrech honno i ddarostwng y Crimea, ac ymhen rhyw fisoedd disodlwyd Sophia gan ei hanner brawd Pedr I, Tsar Rwsia. Ar y cychwyn, enillodd Mazepa ffafr Pedr, a bu Llu Zaporizhzhia yn ffyddlon i'r Tsaraeth. Llwyddodd Mazepa i sicrhau ymreolaeth ei Hetmanaeth am ddeng mlynedd, ac aeth ati i adeiladu nifer o eglwysi, llyfrgelloedd, ac ysgolion yn ei diriogaeth. Yn ogystal â'i gampau milwrol, fe'i cofir yn hanesyddol fel noddwr o'r celfyddydau yn Wcráin. Fodd bynnag, byddai Pedr yn codi gwrychyn y Cosaciaid trwy orfodi dyletswyddau newydd arnynt a gadael ei fyddin i gamdrin y werin bobl yn Wcráin. O ganlyniad i'r pechodau hyn—yn ogystal â'i anniddigrwydd oherwydd methiant ei ymdrechion i uno Glan Dde Wcráin â'r Lan Chwith—cynllwyniodd Mazepa i gefnogi Ymerodraeth Sweden wedi cychwyn Rhyfel Mawr y Gogledd ym 1700. Cysylltodd â chylchoedd o blaid Sweden yng Ngwlad Pwyl, ac mewn cudd-drafodaethau â'r Brenin Karl XII ym 1705 cytunodd Mazepa i ddarparu cyflenwadau a milwyr ychwanegol os oedd Sweden am oresgyn Rwsia, ar yr amod byddai'r Swediaid yn caniatáu i wladwriaeth Wcreinaidd unedig ffurfio ffederasiwn â'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Cafodd Pedr wybod am deyrnfradwriaeth Mazepa, ond gwrthododd ei choelio, a pharhaodd yr Hetman i esgus ei fod yn ffyddlon i'r Tsar.[2]
Yn Hydref 1708, datgelodd Mazepa o'r diwedd ei gynllwynion gan arwain pum mil o'i Gosaciaid i ymuno â byddin Sweden wrth iddi oresgyn Wcráin. Serch, methiant a fu ymdrechion Mazepa i gynnau gwrthryfel ymhlith y werin Wcreinaidd yn erbyn Rwsia—heb sôn am y Cosaciaid Rwsiaidd a Thatariaid y Crimea, y rheiny yr oedd yn gobeithio ennill i'w achos—a bu'r nifer fwyaf o Gosaciaid Zaporizhzhia yn ffyddlon i'r Tsar.[2] Fe'i disodlwyd yn Hetman Llu Zaporizhzhia gan Ivan Skoropadsky, a chafodd ei esgymuno gan Eglwys Uniongred Rwsia.[3] Ar 8 Gorffennaf 1709, byddai lluoedd Rwsia, gyda'r Cosaciaid ffyddlon dan arweiniad Skoropadsky, yn drech na Sweden a Chosaciaid Mazepa ym Mrwydr Poltava, yr ymladdfa fwyaf a phwysicaf yn y rhyfel. Drannoeth y drin, ffoes yr Hetman Mazepa a'r Brenin Karl, gyda rhyw fil a hanner o'u milwyr, i Dywysogaeth Moldafia, dan dra-arglwyddiaeth yr Otomaniaid. Yno, yn Bendery, Moldafia, bu farw Ivan Mazepa o achosion naturiol ddeufis yn ddiweddarach.
Mae bywyd cythryblus Mazepa a'i benderfyniad i newid ochrau yn ystod Rhyfel Mawr y Gogledd wedi sicrhau lle ei enw yn hanes Wcráin a Rwsia a llên gwerin yr Wcreiniaid. Trwy gydol oesoedd Ymerodraeth Rwsia a'r Undeb Sofietaidd bu Mazepa yn ffigur hynod o ddadleuol yn hanesyddiaeth Wcráin, a châi ei alw o hyd yn fradwr gan nifer o Rwsiaid ac Wcreiniaid.[3] Ers annibyniaeth Wcráin ym 1991, mae mwy o Wcreiniaid yn ei ystyried yn arwr gwladgarol ac yn symbol o genedlaetholdeb Wcreinaidd. Ysbrydolwyd sawl celfyddydwaith gan chwedl amdano sydd yn honni iddo gael ei ddal, ac yntau'n ddyn ifanc, yn cael perthynas ag uchelwraig o Bwyles, a'i gŵr yn ei gosbi trwy ei glymu'n noeth wrth farch gwyllt a'u rhyddhau ar y stepdiroedd. Traddodir y stori hon yn y gerdd Ramantaidd Saesneg Mazeppa (1819) gan yr Arglwydd Byron.